Tragwyddol glod i'r Cyfiawn Fu farw tros fy mai; Fe adgyfododd eilwaith O'r bedd i'm cyfiawnhau: Ar orsedd ei drugaredd Mae'n dadleu yn y ne' Ei fywyd a'i farwolaeth Anfeidrol yn fy lle. Ni cheisiai'n wyneb Moses Un ffrynd i ddadleu 'nghwyn, Ond Iesu'r cyfaill ffyddlon Fu farw er fy mwyn: Yn ymchwydd yr Iorddonen, Ac yn y farn a ddaw, Diangol yn y diwedd A fyddaf yn ei law. Er gwaetha'r maen a'r milwyr, Cyfododd Iesu'n fyw; Daeth yn ei law alluog A phardwn dynol-ryw; Gwnaeth etifeddion uffern, Yn etifeddion nef; Fy enaid byth na thawed A chanu iddo ef. Ni fedr daear ganu, A'u holl soniarus lef, Caniadau cyn felysed, Fydd yn ei gwm'ni ef; Yn awr holl nef y nefoedd, Mewn un hyfrydaf dôn, A seiniant yn gyttunol, Ogoniant mawr yr Oen.Morgan Rhys 1716-79 Tôn [7676D]: Shiloh (Melchior Teschner 1584-1635) gwelir: Er gwaetha'r maen a'r milwyr Er gwaetha'r maen a'r milwyr dig Fyth fyth rhyfeddai'r cariad Ni [cheisia'i yn / cheisia'n] wyneb Moses Ni fedr daear ganu Yr Iesu adgyfododd |
Eternal praise to the righteous one Who died for my sin; He rose again From the grave to justify me: On the throne of his mercy He is pleading in heaven His life and his immeasurable Death in my place. No friend in the face of Moses Would seek to plead my complaint, But Jesus the faithful friend Who died for my sake: In the swelling of the Jordan, And in the coming judgment, Safe in the end I shall be in his hand. Despite the stone and the soldiers, Jesus rose alive; He brought in his powerful hand Pardon for human-kind; He make the heirs of hell, Into the heirs of heaven; May may soul never be silent But sing unto him. The earth is unable to sing, With all their resounding cry, Songs as sweet, As will be in his company; Now all the heaven of heavens, In one most delightful tune, Are sounding in agreement, The great glory of the Lamb.tr. 2016,19 Richard B Gillion |
All praise to Christ the Righteoustr. Howell Elvet Lewis [Elfed] 1860-1953 Sweet Singers of Wales 1889
|